Home  >  Welsh Gold   >   Gwynfynydd Gold Mine   >   19th Century Gold Mining (Part 3)

19th Century Gold Mining (part 3)

GWYNFYNYDD GOLD MINE

Mining Methods

Gold was first discovered at Gwynfynydd in 1863, hut no profitable amounts were found until 1887. In the 19th Century, gold ore extraction was a laborious process and a miner's day was long and hard.

A Dolgellau man, Hugh Pugh, began work at Gwynfynydd in 1888 and his diaries provide a fascinating insight into working conditions and mining methods. At this time about 200 workers were employed, many of them boys under 15, and a 10-hour shift was usual. Pugh writes that local shops were stocked with trays of gold quartz for sale to visitors: "There was a gold rush here, miners everywhere..."

Many men lived in barracks at the mine, or lodged in nearby farms and others walked long distances from home each day. Officials had a separate hoarding house. Hugh Pugh walked eight and a half miles to work. He wrote: "We used to meet on the bridge at 3 o'clock with our Wallets, a big homemade loaf in one end and rations in the other, and start work at 7 o'clock".

A cart and horse went to Dolgellau each day for supplies and once a week, bread and groceries were delivered to Gwynfynydd. Menus seem to have been monotonous with one man writing home:

'Rabbits young, rabbits old,
Rabbits hot, rabbits cold,
Rabbits tender, rabbits tough,
Thank the Lord, we had enough'


There was little entertainment for the resident miners, apart from 'sing-songs' on Friday nights and a concert once a month. One manager opened a reading room and started a Bible class. By 1900 the scale of wages was 3/6d for a miner and assayer, 1/6d for a boy and 1/1d for a donkey.



Dulliau Mwyngloddio

Darganfuwyd aur am y tro cyntaf yng Ngwynfynydd yn 1863 ond ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw symiau proffidiol hyd 1887. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd y gwaith o dynnu'r mwyn aur yn broses lafurus ac roedd diwrnod y mwyngloddiwr yn hir ac yn galed.

Yn 1888 dechreuodd dyn o Ddolgellau o'r enw Hugh Pugh weithio yng Ngwynfynydd ac mae ei ddyddiaduron yn rhoi darlun hynod ddiddorol i ni o'r amodau gwaith a dulliau mwyngloddio. Tua'r adeg hon cyflogid rhyw 200 o weithwyr, llawer ohonynt yn fechgyn dan 15 oed, ac yr oedd shifft o 10 awr yn gyffredin. Mae Pugh yn cyfeirio at y ffaith fod y siopau lleol yn llawn hambyrddau o gwarts aur i'w gwerthu i ymwelwyr: "Roedd yna ruthr am aur yma a mwyngloddwyr ym mhob man ..."

Roedd llawer o'r dynion yn byw mewn barics yn y gwaith aur neu yn lletya ar ffermydd cyfagos ac eraill yn cerdded cryn bellter o'u cartrefi bob dydd. Mae'n debyg fod gan y swyddogion lety ar wahân. Arferai Hugh Pugh gerdded wyth milltir a hanner i'r gwaith. Dyma fel yr ysgrifennodd: "Roeddem yn arfer cyfarfod ar y bont am dri o'r gloch y bore gyda'n bagiau gwaith, torth fawr wedi'u chrasu gartref yn un pen a gweddill y bwyd yn y llall, a dechrau gweithio am saith y bore".

Byddai cert a cheffyl yn mynd i Ddolgellau bob dydd i nol anghenion ac unwaith yr wythnos cal bara a bwydydd eraill eu cludo i Wynfynydd. Mae'n ymddangos mai digon undonog oedd eu prydau bwyd a chafwyd cyfeiriad i'r perwyl hwnnw mewn pennill a gynhwyswyd gan un evr o Sais wrth iddo ysgrifennu at ei deulu:

'Rabbits young and rabbits old,
Rabbits hot, rabbits cold,
Rabbits tender, rabbits tough,
Thank the Lord, we had enough'


Nid oedd yna lawer o adloniant ar gyfer y mwyngloddwyr oedd yn byw ar y safle ar wahân i dipyn o hwyl wrth gydganu ar nosweithiau Gwener a chyngerdd unwaith y mis. Aeth un rheolwr ati i agor ystafell ddarllen a dechrau dosbarth Beiblaidd. Erbyn 1900 yr oedd mwyngloddiwr a dadansoddwr yn derbyn cyflog o dri swllt a chwe cheiniog, bachgen yn cael swllt a chwech a rhoddid swllt a cheiniog ar gyfer asyn.

Previous > 19th Century Gold Mining Part 2
Next > Evolution of the Gold Belt